SL(6)585 – Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) (“y Rheoliadau hyn”) yn cyfyngu ar hyrwyddo cynhyrchion â lefelau uchel o fraster, siwgr a halen drwy leoliad a phris ar sail swmp yng Nghymru.
Bydd y cyfyngiadau’n atal manwerthwyr canolig a mawr (sydd â 50 neu ragor o weithwyr cyflogedig), sy’n gwerthu bwyd neu ddiod yng Nghymru, rhag arddangos cynhyrchion â lefelau uchel o fraster, siwgr a halen mewn lleoliadau allweddol mewn siop neu ar-lein a rhag cynnig y cynhyrchion hynny fel rhan o hyrwyddiad pris ar sail swmp. Mae’r 13 o gategorïau o fwyd penodedig wedi’u rhestru yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.
Hefyd, bydd busnesau cymwys yn y sector manwerthu a thu allan i’r cartref yn cael eu gwahardd rhag cynnig hyrwyddiad ail-lenwi am ddim ar gyfer diodydd sydd wedi’u melysu â siwgr.
Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y Rheoliadau hyn y llynedd, ac mae’n nodi bod y Rheoliadau hyn yn gam hanfodol wrth gyflawni’r uchelgeisiau yn y strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach. Mae Memorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru i’r Rheoliadau hyn yn darparu mai nod y cyfyngiadau hyn yw lleihau gorfwyta cynhyrchion â lefelau uchel o fraster, siwgr a halen sy’n gallu cyfrannu at sefyllfa pan fo plant dros bwysau neu’n byw gyda gordewdra.
Gweithdrefn
Cadarnhaol drafft.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) - ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Yn rheoliad 15 o’r testun Saesneg, enw cywir y ddeddfwriaeth y cyfeirir ati yw “the Regulatory Enforcement and Sanctions Act 2008”. Mae’r enw a ddefnyddir yn y testun Cymraeg yn gywir.
2. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae paragraff 13 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn yn darparu y caiff awdurdod bwyd dynnu’n ôl hysbysiad sy’n gosod cosb ariannol benodedig. Mae Atodlen 2 yn diffinio dau fath o hysbysiadau, “hysbysiad o fwriad” sef pan fo awdurdod bwyd yn cynnig gosod cosb ariannol benodedig ar berson (paragraff 2(1)), a hysbysiad sy’n gosod cosb ariannol benodedig, a ddiffinnir fel “hysbysiad terfynol” (paragraff 5(1)).
Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro pa un o’r hysbysiadau hyn y bwriedir iddo fod o fewn cwmpas paragraff 13. Os mai’r bwriad yw darparu pŵer i’r awdurdod bwyd i dynnu’n ôl “hysbysiad terfynol” yn unig, nid yw’n glir pam na ddefnyddir y term “hysbysiad terfynol” ym mharagraff 13 fel y cyfeirir ato mewn mannau eraill yn Atodlen 2 (gweler paragraffau 6 i 10).
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.
3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Disgwylir i’r Rheoliadau hyn ddod i rym ar 26 Mawrth 2026, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd. Mae’r Rheoliadau hyn wedi’u cysoni i raddau helaeth â’r Rheoliadau sydd ar waith yn Lloegr. Daeth Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Lleoli) (Lloegr) 2021 i rym ar 1 Hydref 2022, ac mae rhai darpariaethau’n ymwneud â hyrwyddiadau pris ar sail swmp (gan gynnwys ail-lenwi diodydd am ddim) i ddod i rym ar 1 Hydref 2025. Mae Llywodraeth yr Alban wedi ymgynghori’n ddiweddar i geisio barn am fanylion Rheoliadau arfaethedig i gyfyngu ar hyrwyddo bwydydd â lefelau uchel o fraster, siwgr a halen, ond nid yw’r Rheoliadau hynny wedi’u cyflwyno eto.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r ddau bwynt adrodd technegol yn unig.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
25 Chwefror 2025